Thumbnail
Archif Ansawdd Dŵr CNC
Resource ID
2b1c6919-a117-46e4-ba64-34b418f59ad5
Teitl
Archif Ansawdd Dŵr CNC
Dyddiad
Rhag. 1, 2024, canol nos, Publication Date
Crynodeb
Mae archif ansawdd dŵr CNC yn cadw data o samplau a gasglwyd ledled Cymru, gan gynnwys data arfordirol, data o aberoedd, afonydd, llynnoedd, pyllau a chamlesi, gollyngiadau carthffosiaeth a masnachol, mannau archwilio llygredd, a safleoedd gwastraff.  Cymerir mesuriadau maes yn y man a'r lle yn yr orsaf samplu, ond dadansoddir y rhan fwyaf o baramedrau mewn labordai i fesur agweddau ar ansawdd dŵr. Unwaith y bydd samplau wedi'u dadansoddi, rhaid i'r canlyniadau gael eu prosesu a'u gwirio cyn eu hychwanegu at yr archif ansawdd dŵr. Felly, mae oedi rhwng cymryd samplau a sicrhau bod y data ar gael. Gall data hefyd newid ar ôl ei gyhoeddi, ond bydd yr archif yn cael ei ddiweddaru bob mis i gynnwys cywiriadau. Mae archif ansawdd dŵr CNC yn set ddata fawr sy’n cynnwys rhywfaint o ddata a allai fod yn sensitif ac felly mae rhywfaint o wybodaeth wedi’i golygu. Mae'r prif faterion sensitif yn ymwneud â dŵr daear, cyflenwadau dŵr yfed, data trydydd parti a samplau ymchwilio. Mae'r haen GIS yn dangos lleoliadau'r safleoedd, y blynyddoedd y cawsant eu samplu a Dalgylch Rheoli y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr y maent wedi'u lleoli ynddo. Gellir defnyddio hyn i helpu i nodi'r ffeiliau blwyddyn sy'n cynnwys y data sydd ei angen arnoch o'r ddolen isod. Dolen i lawrlwytho data ansawdd dŵr Y data diweddaraf sydd ar gael Mae CNC yn dal data sy’n mynd yn ôl i 1962 ond mae’r cynnyrch data agored yn cynnwys data o 2000 ymlaen. Ni chaiff unrhyw samplau eu cynnwys ar ôl y dyddiad y cynhaliwyd yr adolygiad ansawdd data ddiwethaf, sef Mawrth 2021 ar adeg ysgrifennu’r adroddiad hwn. Mae proses yn cael ei datblygu er mwyn sicrhau bod canlyniadau mwy diweddar ar gael. I gael gwybod pryd y cafodd y ffeiliau unigol eu diweddaru ddiwethaf, gweler y daenlen ganlynol. Rhybudd am yr wybodaeth Cyffredinol: Mae’n bosibl y bydd data’n cael ei newid ar ôl ei gyhoeddi, gyda’r archif yn cael ei ddiweddaru bob mis i gynnwys cywiriadau. Gall hyn gynnwys tynnu sylw at ganlyniadau nas nodwyd yn flaenorol, fel rhai sy'n gwyro neu'n dileu canlyniadau y nodwyd eu bod yn annilys. Samplau sy’n gwyro: Mae’n ofynnol i Wasanaethau Dadansoddol Cyfoeth Naturiol Cymru fod â pholisïau a gweithdrefnau ar waith o dan safon achredu ISO/IEC 17025 er mwyn sicrhau bod cywirdeb y canlyniadau a adroddir yn cael ei gynnal. Disgrifir unrhyw sampl nad yw'n bodloni'r meini prawf a osodwyd ar ôl ei derbyn neu yn dilyn dadansoddiad fel un sy'n gwyro. Rydym wedi amlygu'r darlleniadau data nad ydynt yn bodloni'r gofynion hyn yn y briodwedd “deviating_result”. Gall canlyniadau sy’n gwyro gael eu heffeithio gan ogwydd a/neu anfanyldeb o faint anhysbys. Felly dylid bod yn ofalus wrth ddehongli'r canlyniadau hyn a chynghorir yn erbyn eu defnyddio mewn dadansoddiad ystadegol. Cymorth ychwanegol Am gymorth ychwanegol, gweler ein cwestiynau cyffredin yma. Datganiad priodoli Yn cynnwys gwybodaeth Cyfoeth Naturiol Cymru © Cyfoeth Naturiol Cymru a hawl cronfa ddata. Cedwir pob hawl. Yn cynnwys data’r Arolwg Ordnans. Rhif trwydded yr Arolwg Ordnans AC0000849444. Hawlfraint y Goron a hawl cronfa ddata.
Rhifyn
--
Responsible
Andrew.Thomas.Jeffery
Pwynt cyswllt
Jeffery
andrew.jeffery@cyfoethnaturiolcymru.gov.uk
Pwrpas
--
Pa mor aml maen nhw'n cael eu diweddaru
None
Math
not filled
Cyfyngiadau
None
License
Trwydded Llywodraeth Agored ar gyfer gwybodaeth y sector cyhoeddus
Iaith
en
Ei hyd o ran amser
Start
--
End
--
Gwybodaeth ategol
Ansawdd y data
--
Maint
  • x0: 160662.0
  • x1: 354380.0
  • y0: 158500.0
  • y1: 396995.0
Spatial Reference System Identifier
EPSG:27700
Geiriau allweddol
no keywords
Categori
Amgylchedd
Rhanbarthau
Global